SL(6)402 – Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023
Cefndir a diben
Mae Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”) yn gweithredu nifer o newidiadau i’r system ardrethu annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i is-ddeddfwriaeth o ran Cymru sy’n ganlyniadol i adrannau 1, 2, 3 a 14 o Ddeddf 2023 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron y Senedd am 4:00 pm ar 27 Hydref 2023 a daethant i rym am 8:00 pm y diwrnod hwnnw.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer casglu a gorfodi ardrethi annomestig o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”).
Mae rheoliad 3(1) o Reoliadau 1989 yn cynnwys diffiniad o “the amount payable” ar gyfer swm yr atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig sydd i’w briodoli i dalwr ardrethi mewn blwyddyn ariannol benodol gan gyfeirio at ddarpariaethau yn Neddf 1988.
Mae rheoliad 2(2)(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfeiriadau at Ddeddf 1988 sy’n ymddangos yn is-baragraff (a) o’r diffiniad o “the amount payable.” Fodd bynnag, mae rheoliad 2(2)(a) yn nodi’r
testun i’w ddisodli yn y diffiniad hwnnw fel “section 43(4) to (6) or section 45(4) to (6) of” [ychwanegwyd pwyslais]. Nid oes "section” ar ôl y cysylltair “or” yn y testun gwirioneddol a geir yn y diffiniad hwnnw.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae’r cyfeiriadau a amnewidiwyd at ddarpariaethau Deddf 1988 yn y diffiniad o “the amount payable” y cyfeirir atynt uchod ac a wneir gan reoliad 2(2)(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys “paragraphs 1-7 and 10 of Schedule 4ZA”.
Mae paragraffau 1 i 7 o Atodlen 4ZA i Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer cyfrifo’r swm a godir ar gyfer atebolrwydd ardrethi annomestig hereditamentau a feddiannir sy’n ymddangos ar restr leol, gan gynnwys cymhwyso rhyddhadau rhannol neu ryddhadau llawn sy’n gymwys o dan amgylchiadau penodedig. Mae paragraff 10 yn cynnwys darpariaethau dehongli at ddibenion Atodlen 4ZA.
Mae paragraff 9 o’r Atodlen honno yn nodi’r rheolau sydd i’w cymhwyso wrth gyfrifo’r “swm a godir” o dan amgylchiadau penodol pan fo mwy nag un rhyddhad yn yr Atodlen yn gymwys. Felly, gofynnir i’r Llywodraeth egluro pam nad yw cyfeiriad at baragraff 9 wedi’i gynnwys yn y testun a amnewidiwyd yn is-baragraff (a) o’r diffiniad o “the amount payable” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1989.
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn amnewid cyfeiriadau amrywiol mewn is-ddeddfwriaeth at ddarpariaethau Deddf 1988 â darpariaethau olynol yn y Ddeddf honno, a geir yn bennaf yn Atodlenni newydd 4ZA, 4ZB a 5A, a fewnosodwyd yn Neddf 1988 gan Ddeddf 2023. Mae darpariaethau’r Atodlenni hynny yn cael effaith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn unol ag adran 19(2) o Ddeddf 2023.
Daeth y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i rym am 8pm ar 27 Hydref 2023. Felly, gofynnir i’r Llywodraeth egluro pam na fynegir yn yr un modd fod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn sy’n cyfeirio at yr Atodlenni hynny yn cael effaith o flynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn y torrir y confensiwn 21 diwrnod (hynny yw, y confensiwn y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r confensiwn, a ddarparwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 27 Hydref 2023.
Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn dweud:
“Heb newidiadau canlyniadol, byddai effeithiolrwydd darpariaethau niferus o fewn is-ddeddfwriaeth sy'n cyfeirio at Ddeddf 1988 yn cael ei danseilio. Yn benodol, byddai cyfyngiad anfwriadol ar gwmpas rhai hawliau apelau ardrethi annomestig i rai talwyr ardrethi yn deillio o unrhyw fwlch rhwng cychwyn adrannau perthnasol o Ddeddf 2023 a dyddiad dod i rym yr offeryn statudol hwn. Felly, bernir ei bod yn angenrheidiol dod â'r offeryn statudol hwn i rym cyn gynted â phosibl ar ôl i Ddeddf 2023 ddod i rym, er mwyn sicrhau bod effaith polisi arfaethedig yr is-ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei chadw.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwyntiau adrodd technegol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Tachwedd 2023